Golchwch a sleisiwch y genhinen. Cynheswch sosban o faint canolig ac ychwanegu’r olew yna coginio’r genhinen am tua 7 munud nes ei bod wedi meddalu ac yna arllwys y passata a 200ml o ddŵr i mewn.
Ychwanegwch y piwri tomato, saws Caerwrangon, siwgr, finegr a paprica os yn eu defnyddio. Sesnwch gyda halen a phupur a chymysgwch yn dda a dod â’r cyfan i’r berw, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am 30 munud dros wres isel cyn ychwanegu’r ffa. Gadewch nhw i goginio am 10 munud arall cyn eu gweini gyda thost neu fel pryd ochr gyda brecwast llawn wedi’i goginio.