Ffritatas Caws Feta a Llysiau wedi'u Rhostio
Cynhwysion
- 200g llysiau wedi'u rhostio (unrhyw gyfuniad o bupurau, corbwmpen, winwns, wylys, tomatos neu datws melys)
- 125g caws feta
- 20g caws Parmesan (wedi'i gratio)
- 8 ŵy mawr
- 100ml crème fraîche neu hufen sur
- 2 lwy fwrdd persli neu basil ffres (wedi'u torri)
Dull
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / Marc Nwy 5. Leiniwch tun myffins 12 twll gyda sgwariau bach o bapur gwrthsaim sydd wedi'u gwlychu ychydig.
- Mewn powlen, curwch yr wyau a'r hufen gyda'i gilydd yn ysgafn a sesnwch gyda halen a phupur du.
- Cymysgwch y perlysiau gyda'r llysiau wedi'u rhostio a'u rhoi â llwy yn y dun myffins.
- Briwliwch y caws feta drostynt ac arllwyswch y gymysgedd wyau dros y llysiau. Ysgeintiwch y Parmesan wedi'i gratio ar ben pob ffritata.
- Pobwch am 15 – 20 munud nes eu bod wedi codi, yn euraidd ac wedi setio. Gweinwch yn gynnes neu ar dymheredd yr ystafell.
Rysait gan Nerys Howell ar gyfer Prynhawn Da
Instagram : nerys_howell