Gazpacho
Cynhwysion
- 1 dafell bara hen
- 600g tomatos aeddfed
- ½ ciwcymbr
- 1 winwnsyn
- 1 pupur coch
- 2 ewin garlleg
- 4 llwy fwrdd olew olewydd
- 4 llwy fwrdd finegr sieri
- 1 llwy de halen
- ½ llwy de bupur
- 1 llwy de paprica mwg
- ½ llwy de cwmin
- I addurno – winwnsyn coch, ciwcymbr neu domato wedi’u torri’n giwbiau mân a’r hadau wedi’u tynnu, neu groutons
Dull
- Mwydwch y bara mewn dŵr am ychydig funudau, yna gwasgwch unrhyw ddŵr dros ben allan.
- Torrwch yr holl lysiau’n fras cyn eu rhoi mewn cymysgydd neu brosesydd bwyd.
- Ychwanegwch yr halen, pupur, paprica mŵg a’r cwmin, a chymysgwch am ychydig funudau nes bod popeth wedi’i dorri’n fân.
- Ychwanegwch y bara, yna arllwyswch yr olew olewydd a’r finegr i mewn a chymysgwch nes bod y cawl yn llyfn.
- Ychwanegwch ychydig o ddŵr os yw’r cawl yn rhy drwchus, yna rhowch yn yr oergell i oeri am 2 awr cyn ei weini.
- Gweinwch gydag unrhyw un o’r cynhwysion addurno ar ei ben.
Ryseit Nerys Howell.
Instagram - nerys_howell