Cegin S4C

Cegin S4C

Granola gyda Ffrwythau a Chnau

Cynhwysion

  • 6 cwpan ceirch
  • 2 gwpan naddion almonau
  • 1 cwpan olew cnau coco
  • 1 cwpan surop masarn
  • ½ llwy de sinamon
  • ½ llwy de sinsir mâl

Ychwanegu ar ôl pobi

  • ½ cwpan hadau cymysg
  • ½ cwpan lugaeron sych neu aeron goji
  • ½ cwpan bricyll

Dull

  1. Cymysgwch y ceirch, y naddion almonau, yr olew cnau coco, y surop masarn, y sinamon a’r sinsir mewn powlen. Taenwch y cymysgedd yn gyfartal dros hambwrdd pobi wedi’i leinio â phapur pobi.
  2. Pobwch am 10 munud, trowch y granola, yna pobwch am 10 munud arall.
  3. Ar ôl iddo oeri, ychwanegwch weddill y cynhwysion a chymysgwch yn dda.
  4. Rhowch mewn cynhwysydd aerglos a’i storio am hyd at 2 fis.

Rysait gan Lisa Fearn

Instagram - lisafearncooks