Cynheswch y popty i 170°C / marc nwy 3. Arllwyswch yr olew, sudd oren a’r surop masarn i mewn i sosban fach, cynheswch dros wres isel a chymysgwch nes ei fod yn llyfn. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu naddion croen yr oren.
Torrwch y cnau yn fras yna cymysgwch gyda’r ceirch, yr hadau a’r sinamon mewn powlen fawr.
Arllwyswch y cymysgedd olew drosto a chymysgwch yn drylwyr i’r cnau.
Lledaenwch y cymysgedd yn gyfartal ar 2 neu 3 hambwrdd pobi mawr, mewn haen denau fel bod y cynhwysion yn coginio’n gyfartal. Pobwch am tua 20 munud, yna trowch drosodd a dychwelyd i’r popty am 5–10 munud arall nes ei fod yn euraidd.
Gadewch i oeri’n llwyr, yna ychwanegwch llugaeron a’r bricyll wedi’u torri cyn eu roi mewn i jariau.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.