Cegin S4C

Cegin S4C

Gyros Cyw Iâr

Cynhwysion

  • 600g cluniau cyw iâr heb groen na asgwrn

     

    Marinad

  • 100g iogwrt Groegaidd
  • 4 ewin garlleg
  • 1 llwy fwrdd oregano sych
  • 1 llwy de paprika mwg
  • 1 llwy fwrdd coriander mâl
  • 1 llwy de cumin mâl
  • Croen a sudd 1 lemwn

    3 llwy fwrdd olew olewydd

     

    Tzatziki

  • 200g iogwrt Groegaidd wedi'i straenio
  • ½ ciwcymbr
  • 2 ewin garlleg
  • 1 llwy fwrdd finegr gwin gwyn
  • 2 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 llwy fwrdd o ddill a mintys wedi'u torri'n fân

     

    Bara Fflat

  • 350g blawd hunan-godi
  • 350g iogwrt Groegaidd
  • 1 llwy de powdr codi
  • 1 llwy de halen

Dull

  1. Gwasgwch y cluniau cyw iâr rhwng dwy daflen bapur pobi gan ddefnyddio rholbren nes eu bod tua 1cm / ½” o drwch. Rhowch yn ddysgl bobi.
  2. Cymysgwch yr holl gynhwysion marinad gyda’i gilydd a’i dywallt dros y cyw iâr. Cymysgwch yn dda a gadewch yn yr oergell i farinadu am 3 awr neu’n well fyth dros nos.
  3. Y diwrnod wedyn, cynheswch farbeciw neu badell gril dros wres uchel. Ychwanegwch ychydig olew, yna’r cyw iâr wedi’i farinadu, a’i goginio am 7–8 munud ar bob ochr.
  4. Ar gyfer y bara fflat – cymysgwch y blawd, halen a phowdr codi mewn powlen, yna ychwanegwch yr iogwrt a chymysgwch nes ffurfio toes meddal. Gadewch i orffwys am 30 munud, yna rhannwch yn 6 darn a rholiwch bob un yn gylch tenau. Coginiwch pob un mewn padell ffrio dros wres uchel am funud neu ddau bob ochr. Ailadroddwch gyda’r toes gweddill. Neu, coginiwch ar y farbeciw.
  5. Ar gyfer y tzatziki – tynnwch y hadau o’r ciwcymbr, ei gratio a’i roi mewn hidlen dros bowlen. Ysgeintiwch 1 llwy de o halen ar ei ben a’i adael am 30 munud i dynnu’r dŵr. Peliwch a gwasgwch y garlleg, yna cymysgwch gyda’r iogwrt a’r cynhwysion eraill.
  6. I greu’r gyros – taenwch lwy o tzatziki ar bob bara fflat, yna rhowch sleisys o glun cyw iâr ar ei ben, tomatos wedi’u torri, ciwcymbr a llettys. Taenwch ychydig mwy o tzatziki ar ben ac addurnwch gyda sleisys tenau o nionyn coch.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Rysáit gan Nerys Howell