Rhowch halen a phupur ar y golwython cig oen. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolig a ffrio'r golwython cig oen am ychydig funudau ar bob ochr nes eu bod wedi brownio. Trosglwyddwch y golwython cig oen i ddysgl gaserol canolig.
Ffriwch y foronen, y genhinen a’r winwnsyn yn yr un badell ffrio nes eu bod yn frown ysgafn ac wedi meddalu.
Ychwanegwch y blawd a’i droi am ychydig funudau cyn ychwanegu’r stoc, stowt a saws Worcestershire. Cymysgwch yn dda, a dewch ag ef i'r berw i’w dewychu.
Arllwyswch y cymysgedd dros y golwython, gan ychwanegu sbrigiau o rosmari a theim.
Trefnwch y tafelli tatws ar ben y hotpot cig oen, gan orgyffwrdd â'r ymylon, yna brwsiwch â'r menyn wedi'i doddi.
Pobwch yr hotpot yn y popty am tua 1½ awr nes bod y tatws wedi coginio ac yn grensiog.