Dewch â’r gwin, y sbeisys a sudd yr oren i’r berw mewn sosban ganolig ei maint. Gostyngwch y gwres a’u fudferwi nes ei fod wedi lleihau i hanner.
Tynnwch y sbeisys cyfan ac yna ychwanegu’r llugaeron, naddion croen yr oren a’r siwgr. Coginiwch dros wres isel i ganolig am 10–15 munud nes bod y siwgr wedi toddi a’r llugaeron wedi dechrau byrstio ac meddalu. Tynnwch oddi ar y gwres a’u profi.
Rhowch y dŵr, y sinamon, yr anis seren a’r clôfiau mewn sosban a’u fudferwi am 5 munud cyn ychwanegu’r llugaeron, y siwgr ac naddion croen a sudd yr oren. Dewch i’r berw yna lleihau’r gwres a fudferwi nes bod y llugaeron yn dechrau meddalu a’r hylif wedi lleihau i hanner. Blaswch ychydig ac ychwanegu mwy o siwgr os yw’n rhy sur.
Llywiwch y jam i mewn i jariau jam wedi’u sterileiddio (2 x 325ml), caewch a gadewch i oeri.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.