Tynnwch y coesynnau a golchwch yr eirin. Gwnewch tyllau ar hyd a lled yr eirin gan ddefnyddio ‘cocktail stick’ neu sgiwer bach a’u rhoi mewn jar storio mawr.
Tywalltwch y siwgr dros yr eirin a chymysgwch yn dda cyn arllwys y jin drosto. Rhowch y caead ar y jar a’i adael mewn lle tywyll, yn ddelfrydol am 3 mis. Ysgwydwch y jar bob dydd am yr wythnos gyntaf nes bod y siwgr wedi toddi’n llwyr, yna ysgwydwch unwaith bob pythefnos.
Ar ddiwedd yr amser hwn, hidlwch yr eirin drwy gewllyn (muslin) a’i boteli. Gadewch nes ei fod ei angen. Gweinwch ar ei ben ei hun neu gyda thonig, neu i wneud “sloe fizz” ychwanegwch 25ml o jin a llanwch â gwin pefriog.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.