Koftas Cig Eidion ac Harissa.
Cynhwysion
- 450g briwgig cig eidion
- 1 winwynsyn coch (wedi ei gratio)
- 2 lwy fwrdd coriander (wedi ei dorri’n fan)
- 2 lwy fwrdd past harissa
- 2 ewin garlleg (wedi ei gratio)
- ½ llwy de halen
- ½ llwy de pupur
- 1 llwy de paprica
- ½ llwy de cumin
Dull
- Cymysgu’r holl gynhwysion nes wedi eu cymysgu’n dda. Rhannu’r gymysgfa yn 6 a’i siapio dros ffyn kofta.
- Eu rhoi yn yr oergell cyn eu coginio am tua 30 munud neu fwy.
- Gallwch eu coginio ar y BBQ neu yn yr popty, ffrio neu grilio. Coginio am tua 10-12 munud.
- Gweini gyda llysiau wedi eu troi mewn olew a garlleg a’u rhoi ar yr barberciw, a hwmws harissa.
Rysait gan Elwen Roberts ar gyfer Prynhawn Da
Instagram - elwen.roberts