Mewn sosban bychan gorchuddiwch y lemwn gyda dŵr a dewch i’r berw. Mudferwch am tua 30 mun, draeniwch a gadewch i oeri.
Gan gadw y does yn droellen torrwch yn ddarnau 2cm ,gwasgarwch ar din pobi gadewch am tua awr .
Yna pobwch ar wres 100c fan 80c am 20 mun.
Nesaf trowch y gwres i 180c 160f nwy 4 . Leiniwch dun pobi 20cm . Mewn prosesydd bwyd malwch y lemwn a’r iogwrt .
Gosodwch yr wyau a 100g o siwgr mewn powlen a chwyrlio nes fod yn olau ac yn ysgafn. Yna ychwanegwch y past lemwn, olew, powdwr pobi a fanila a chwisgiwch i gyfuno’r cyfan .
Nesaf ychwanegwch y toes wedi falu a gosodwch yn y tun a torri yn 9 darn gan gosod sleisen o lemwn ar bob darn. Pobwch am 25 mun nes fod yn euraidd.
I greu y surop , mewn sosban gosodwch 150g o siwgr sudd 1 lemwn a 250ml o ddŵr a sinamon, dewch ir berw ac yna mudferwi am tua 5 mun i greu y surop clir. Gadewch i oeri ychydig yna arllwyswch dros y lemonopita. Gadewch yn y tun am tua awr i amsugno.