Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C (Ffan) / Nwy Marc 6.
Torrwch y pupurau, y corbwmpenni, y winwns coch a'r betys.
Piliwch y tatws melys a'u torri'n ddarnau o faint tebyg i'r llysiau eraill.
Rhannwch y blodfresych neu'r brocoli yn flodigion. Cymysgwch yr holl lysiau gyda'r olew olewydd, y paprika mwg a'r oregano, yna sesnwch gyda halen a phupur. Taenwch y llysiau dros 3 neu 4 hambwrdd pobi mawr mewn un haen. Ychwanegwch y pen cyfan o garlleg.
Rhostiwch am 30 munud, gan droi'r llysiau hanner ffordd drwy'r amser coginio. Yna ychwanegwch y tomatos ceirios a rhostiwch am 10 munud arall, nes bod y llysiau'n feddal ac wedi carameleiddio.