Cegin S4C

Cegin S4C

Madarch mewn Saws Hufennog

Cynhwysion

  • 1 llwy fwrdd olew
  • 20g menyn
  • 1 winwnsyn
  • 200g madarch
  • 2 ewin garlleg
  • 150ml gwin gwyn / stoc cyw iâr
  • 150ml creme fraiche
  • 1 llwy fwrdd persli
  • ½  llwy de pupur du
  • Pinsied halen

Dull

  1. Rhowch yr olew a’r menyn mewn padell ffrio a ffrio’r winwnsyn nes yn feddal.
  2. Ychwanegu’r madarch a’r garlleg a ffrio am 3 munud.
  3. Ychwanegu’r pupur a halen, yna’r gwin neu stoc a choginiwch am ychydig o funudau ar wres ganolig nes mae’r stoc yn lleihau.
  4. Gorffen gyda’r creme fraiche a’r persli, ei godi i ferwi.
  5. Gallwch ei ddefnyddio fel saws ar gyw iar, gamwn neu ar ben tost surdoes!

Rysait gan Elwen Roberts ar gyfer Prynhawn Da
Instagram - elwen.roberts