Gwiriwch eich cregyn gleision... os nad ydynt yn cau ar ôl cael tap sydyn, taflwch nhw. Bydd cragen las iach bob amser yn cau pan gaiff ei thapio – dyma un o'i ffyrdd o amddiffyn ei hun.
Rhowch yr olew olewydd mewn padell a ffriwch y winwnsyn, y pupur a'r garlleg yn ysgafn. Peidiwch â gadael i'r winwns newid lliw – cadwch y gwres yn isel!
Ychwanegwch y gwin gwyn a'r teim i'r badell, yna dewch â'r cyfan i fudferwi. Ychwanegwch y cregyn gleision, rhowch gaead ar y badell a gadewch iddynt stemio am 4 i 5 munud. I weld a ydynt wedi coginio, codwch y caead – os yw'r cregyn gleision wedi agor, maent yn barod.
Taflwch unrhyw gregyn gleision sydd heb agor – mae hyn yn bwysig. Y rheol yw: dylai cragen las fyw gau pan gaiff ei thapio, a dylai fod ar agor ar ôl ei choginio!
Ychwanegwch yr hufen i'r badell a chynheswch am funud arall. Yna arllwyswch y cyfan i bowlen fawr agored, gwasgarwch bersli wedi'i dorri'n fân drosto a gweinwch gyda bara crystiog blasus.