Gosodwch y llus, siwgr a sudd lemwn mewn sosban a mudferwi am tua 15-20 munud. Yna malu yn piwrî gyda hylifwr llaw neu mewn prosesydd bwyd. Gosodwch tua 150g o’r piwrî mewn powlen arall a gosod yn yr oergell.
Gorchuddiwch y gelatin gyda dŵr oer mewn powlen a gadewch am tua 5 munud i feddalu.
Nesaf rhaid gosod gweddill y gymysgedd piwrî nol ar y gwres i gynhesu , gwasgwch y dŵr or gelatin ac ychwanegwch iddo i doddi.
Arllwyswch y gymysgedd drwy rhidyll i bowlen a gadewch i oeri .
Chwipiwch 300ml or hufen gyda chroen y lemwn yn bigau meddal, a plygu drwy y piwrî gan ychwanegu gweddill y hufen a chyfuno a rhannu rhwng 6 gwydr bychan yna i’r oergell i setio .
I greu y crwm trowch y ffwrn i 200c fan /180c /nwy 6 , gosodwch y blawd ,cnau ,menyn, a pinsiaid o halen mewn dysgl a malu i greu ansawdd crwm. Yna ychwanegwch y siwgr ar teim Gosodwch y cyfan ar hambwrdd pobi a phobi am tua 15-20 mun nes fod yn euraidd.
Gweiniwch drwy rhannu gweddill y piwrî dros pob mŵs yna ysgeintio gyda’r crwm ac addurno ddail teim.