180g ffrwythau ffres (mafon, llus, rhiwbob wedi'i ddeisio, mwyar duon)
130ml llaeth enwyn
1 llwy dê rhin fanila
1 ŵy mawr
30ml olew llysiau
50g menyn
blawd plaen
siwgr mân
25g ceirch a chnau
Dull
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C ffan.
Gwnewch y top crymbl trwy rwbio'r menyn a'r blawd gyda'i gilydd i ffurfio briwsion bara, yna ychwanegu ceirch, siwgr a chnau wedi'u torri. Gosodwch i un ochr.
Torrwch y ffrwythau (os yn fawr) a'u hychwanegu at y blawd.
Cymysgwch y powdr pobi, bicarb, sinamon a siwgr gyda'i gilydd mewn powlen fawr.
Cymysgwch y cyfan yna ychwanegwch y blawd a'r ffrwythau a chymysgwch yn dda.
Mewn jwg chwisgwch yr ŵy gyda'r olew fanila a'r llaeth enwyn.
Ychwanegwch y cynhwysion gwlyb i'r bowlen fawr, yna ei roi i mewn i gasys nes eu bod yn 3/4 llawn.
Rhowch crymbl ar ei ben a'i bobi am 15-20 munud.
Rysáit gan Michelle Evans-Fecci, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.