Cegin S4C

Cegin S4C

Oen wedi’i Rhostio’n Araf

Cynhwysion

Yr Oen

  • Ysgwydd oen (gyda’r asgwrn, tua 2–2.5kg)
  • 2–3 llwy fwrdd olew olewydd (i’w rwbio dros yr oen)
  • 4 ewin garlleg
  • 6 brigyn rhosmari ffres
  • Halen a phupur du
  • 1 winwnsyn
  • 1 pen cyfan garlleg, wedi’i haneru
  • 300ml dŵr

Y Tatws Hasselback

  • Bag bach o datws bach
  • 50g o fenyn, wedi’i doddi
  • 2 ewin o garlleg, wedi’u malu
  • 1 brigyn o rosmari, wedi’i dorri’n fân
  • Halen môr a phupur

Y Saws Mintys

  • 1 criw mintys ffres
  • 1 llwy fwrdd siwgr
  • 3 llwy fwrdd dŵr berw
  • 2–3 llwy fwrdd finegr gwin gwyn

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 160° ffan. Rhowch yr oen mewn tun rhostio mawr neu ddysgl gaserol a’i rwbio ag olew olewydd, halen a phupur.
  2. Gan ddefnyddio cyllell finiog denau, gwnewch ychydig o doriadau yn yr oen, mor ddwfn ag y gallwch, a llenwch y tyllau gyda darnau o rosmari a garlleg.
  3. Rhowch y winwnsyn , y pen garlleg wedi’i haneru a’r rosmari sy’n weddill ar waelod y tun rhostio ac ychwanegwch y dŵr.
  4. Gorchuddiwch â chaead neu ffoil a rhostiwch am 3 awr nes ei fod yn feddal ac yn disgyn yn ddarnau.
  5. Pan fydd awr ar ôl i’r oen, paratowch y tatws. Torrwch bob tatws yn denau bron drwy’r cyfan. Cymysgwch y menyn, garlleg, rosmari, halen a phupur mewn powlen fach. Brwsiwch dros y tatws a sesnwch yn dda. Rhostiwch am 50–60 munud nes eu bod yn euraidd ac yn grensiog, gan frasteru hanner ffordd drwodd.
  6. Codwch y tymheredd i 200° ffan a thynnwch y caead oddi ar yr oen. Rhostiwch am 20–30 munud arall nes bod y cig yn euraidd a’r tatws yn grensiog.
  7. Tynnwch yr oen o’r tun rhostio a’i drosglwyddo i blât. Gorchuddiwch yn llac â ffoil a gadewch iddo orffwys am 20 munud.
  8. Tra bod yr oen yn gorffwys, gwnewch y saws mintys. Cymysgwch y mintys, siwgr a dŵr berw mewn powlen fach. Cymysgwch yn dda ac ychwanegwch y finegr a sesnwch.
  9. Gweinwch yr oen a’r tatws gyda saws mintys a brocoli.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynahwn Da

 

Instagram - bakesbymichelle