Cegin S4C

Cegin S4C

Panna Cota Cymreig

Cynhwysion

  • 3 darn gelatin
  • 300ml hufen
  • 1 llwy de past fanila
  • 100g mêl Cymreig
  • 500g iogwrt mêl Groegaidd Llaeth Y Llan

 Eirin wedi pobi

  •  5 eirin
  • 25g siwgr mân
  • sudd 1 oren
  • 200g mwyar

Crymbl Cymreig

  • 125g blawd plaen
  • 67g ceirch
  • 100g siwgr Demerara
  • 100g menyn Cymreig
  • 1/2 llwy de sinamon
  • 1/4 llwy de halen

Dull

  1. Sociwch y gelatin mewn dŵr.
  2. Cynheswch y hufen, fanila a’r mêl mewn sosban a cynhesu ar wres isel. Gwasgwch y gelatin or dŵr ac ychwanegwch i’r hufen . Nesaf rhannwch rhwng 6 pot pwdin 200ml yna i’r oergell am tua 4 awr i setio.
  3. I greu crymbl, Malwch y menyn i’r blawd yna fewn a’r siwgr, halen, sinamon a’r ceirch, gwasgarwch dros hambwrdd pobi a choginio am 25munud ar wres 180c / 350F i greu crymbl crensiog  - gadewch i oeri.
  4. Torrwch yr eirin yn hanner a gwaredwch y garreg . Gosodwch mewn dysgl pobi gyda y siwgr a sudd oren a ychydig o ddŵr, coginiwch am tua 15 munud yna ychwanegwch y mwyar a choginio am tua 12 mun arall, yna gadewch i oeri.
  5. Gweinwch drwy socian y potiau mewn dŵr cynnes, a trowch ar blât , gyda yr eirin a’r mwyar a ysgeintio gyda’r crymbl Cymreig. 

Rysait Gareth Richards

Instagram - cegin_gareth