3 llwy fwrdd preserve sinsir neu 2 pelen o stem sinsir ac un llwy fwrdd surop
1 llwy fwrdd wisgi neu rym
300g crwst parod wedi’i rolio
1 ŵy
1 llwy fwrdd siwgr Demerara
Dull
Cynheswch y popty i 200°C/nwy 6 a leiniwch hambwrdd pobi â phapur gwrthsaim.
Pliciwch yr afalau a thynnwch y rhan fwyaf o’r craidd allan, gan adael ychydig ar waelod pob afal.
Cymysgwch y wisgi neu’r rym â’r cyffaith sinsir a rhowch lwyaid o’r cymysgedd yng nghanol pob afal.
Torrwch y crwst parod yn stribedi hir tua 1cm o led. Gan ddechrau wrth waelod pob afal, lapiwch y crwst o’i amgylch mewn troell, gan adael i’r ymylon orgyffwrdd ychydig.
Brwsiwch y crwst â’r ŵy wedi’i guro ac ysgeintiwch y siwgr drosto. Rhowch y parseli ar yr hambwrdd a’u pobi am 15 munud. Yna gostyngwch dymheredd y popty i 180°C/nwy 5 a’u pobi am 10 munud arall, nes bod y crwst yn frown euraidd dwfn.