Cegin S4C

Cegin S4C

Parseli Pysgod

Cynhwysion

  • 1 lemwn
  • 400g ffacbys
  • 1 llwy de paprica
  • 1 llwy fwrdd mêl
  • 3 llwy de past  harissa
  • 150g pupur
  • Dail coriander
  • 2 filed eog
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd

I weini:

  • Bresych gwyrdd
  • 50g almonau
  • Reis

Dull

  1. Trowch y ffwrn i 190c fan /170c/ nwy 5. Torrwch y lemwn yn hanner a sleisio 1 hanner yn dafellu tenau .
  2. Cymysgwch y ffa gyda sudd lemwn ,paprica, mêl, 1 llwy de o bast harissa a sleisiwch y pupur gan ychwanegu gyda’r dail coriander.
  3. Rhannwch rhwng 2 dudalen o bapur gwrthsaim . Gwasgarwch 1 llwy de o harrissa dros yr eog a gosodwch yn y pecyn gyda ychydig olew, a’r lemwn wedi sleisio arno gan gorchuddio ar bapur i greu parsel, a selio yn dda i gadw y stem ynddo .
  4. Gosodwch ar hambwrdd pobi a coginio am 15 min .
  5. Yn y cyfamser cynheswch olew mewn padell a torri y bresych yn denau gan droi, ffrio yn  yr olew yna ychwanegwch y cnau ,halen a phupur .
  6. Gweinwch y parseli pysgod gyda bresych a ychydig reis.

Rysait Gareth Richards ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - cegin_gareth