Cegin S4C

Cegin S4C

Pasta Cranc a Chorgimwch Bae Aberteifi

Cynhwysion

  • 400g pasta linguine
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 tsili coch
  • 3 ewin garlleg
  • 1 shibwnsyn
  • 100g cig cranc gwyn
  • 100g cig cranc brown
  • 1 lemwn
  • 20g persli dail gwastad
  • 200g corgimychiaid Bae Aberteifi

Dull

  1. Coginiwch y pasta mewn dŵr hallt berwedig am tua 10 munud, yna’i ddraenio gan gadw rhywfaint o’r dŵr coginio.
  2. Yn y cyfamser, cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolig. Torrwch y garlleg, y shibwns a’r tsili yn fân a’u coginio yn yr olew am ychydig funudau, yna ychwanegwch groen a sudd y lemwn a chymysgwch y cig cranc brown i mewn.
  3. Ychwanegwch y pasta a digon o’r dŵr coginio a gadwyd i lacio’r cymysgedd – tua 3 llwy fwrdd – ac yna cymysgwch y cig cranc gwyn i mewn.
  4. Ychwanegwch y persli wedi’i dorri a’i gymysgu drwy’r pasta nes ei fod wedi’i ddosbarthu’n gyfartal.
  5. Rhannwch rhwng powlenni pasta, rhowch y corgimychiaid wedi’u coginio ar ei ben, a gweinwch gyda diferyn ychwanegol o olew a salad gwyrdd.

Rysait Nerys Howell ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - nerys_howell