Berwch y pasta nes ei fod yn al dente, gan gadw 1 cwpan o ddŵr y pasta, yna draeniwch.
Sesnwch y cyw iâr a’i ffrio mewn padell nes ei fod yn euraidd, yna rhowch i’r neilltu.
Yn yr un badell, coginiwch y shibwns am 4–5 munud nes eu bod yn feddal, yna ychwanegwch y garlleg, paprica a’r darnau tsili. Ychwanegwch y tomatos sych, yna arllwyswch yr hufen a’r stoc a mudferwch yn ysgafn am 5–10 munud.
Cymysgwch y parmesan, oregano a’r sbigoglys. Ychwanegwch y dŵr pasta a gadwyd i lacio’r saws os oes angen. Ychwanegwch y cyw iâr a’r pasta, yna cymysgwch i’w orchuddio
I’w weini, ychwanegwch basil a parmesan ychwanegol ar ei ben.
Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da