Coginiwch y pasta yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn. Cadwch 100ml o’r dŵr pasta cyn draenio.
Torrwch y cyw iâr yn ddarnau bach. Ffriwch yn yr olew dros wres canolig-uchel nes ei fod yn euraidd ac wedi coginio’n drylwyr. Ychwanegwch y winwnsyn a choginiwch am 3–4 munud, yna ychwanegwch y garlleg.
Ychwanegwch y tomatos, y piwrî tomato a’r perlysiau, a mudferwch am 5 munud.
Ychwanegwch y caws hufen a digon o ddŵr pasta i greu saws hufennog hyfryd.
Ychwanegwch y sbigoglys a’i droi nes iddo wywo.
Cymysgwch y pasta i mewn, sesnwch yn dda a gorffennwch gyda’r caws wedi’i gratio.