Cegin S4C

Cegin S4C

Pasta Selsig mewn Saws Tomato a Basil

Cynhwysion

  • 225g pasta penne
  • 400g selsig
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 winwnsyn
  • 3 ewin garlleg
  • 1 pupur coch
  • 75g madarch
  • 2 lwy fwrdd piwrî tomato
  • 250ml stoc cyw iâr
  • 250g tomatos
  • 1 llwy de oregano sych
  • Pupur du
  • 125ml hufen sengl
  • 100g caws cheddar
  • 50g caws mozzarella
  • Llond llaw basil ffres (i weini)
     

Dull

  1. Tynnwch yr llenwad selsig allan o’r croen a’u ffurfio i beli bach.
  2. Ffriwch y peli bach selsig am 4-5 munud nes wedi coginio, tynnu allan o’r badell.
  3. Coginiwch yr pasta nes yn eithaf meddal.
  4. Rhowch yr olew yn yr badell a ffrio’r winwnsyn am 2 funud, yna ychwanegu’r pupur coch a’r garlleg, ffrio am 2 funud.
  5. Ychwanegwch yr oregano, pupur du, piwrî, stoc a’r tomatos.
  6. Coginiwch am 5 munud.
  7. Ychwanegwch yr hufen, a’r caws cheddar a’i droi i dewychu, rhoi’r selsig yn ôl yn yr badell gyda’r pasta a’r basil.
  8. Ei droi nes mae’n boeth. Gweini gyda’r caws mozzarella a mwy o basil a salad gwyrdd.

Rysait gan Elwen Roberts ar gyfer Prynhawn Da
Instagram - elwen.roberts