Rhowch y rhesins mewn powlen fach a’u gadael i socian mewn te am ddwy awr.
Rhowch y blawd, y siwgr a’r halen ym mowlen prosesydd bwyd a churiwch y cymysgedd ychydig o weithiau i’w gymysgu. Ychwanegwch y menyn a pharhewch i guro nes bod y cymysgedd yn dechrau ymdebygu i friwsion bara bras.
Ychwanegwch y ddau felynwy a pharhewch i guro nes bod y toes yn dod at ei gilydd. Ychwanegwch y dŵr os oes angen. Tynnwch y toes o’r bowlen a’i siapio’n belen. Lapiwch y toes mewn cling ffilm a’i adael i orffwys yn yr oergell am o leiaf awr.
Pan fyddwch yn barod i bobi, cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C a thynnwch y toes o’r oergell. Ar arwyneb sydd wedi’i flawdio’n dda, rholiwch dri chwarter y toes yn gylch, gan adael y gweddill yn yr oergell.
Gwasgwch y toes i mewn i’r tun sydd wedi’i baratoi. Taenwch y briwsion bara dros waelod y toes a rhowch y tun yn yr oergell.
Pliciwch yr afalau, tynnwch y canol a’u torri’n ddarnau bras. Cymysgwch nhw mewn powlen fawr gyda’r blawd corn, y siwgr brown a’r sbeis. Arllwyswch y cymysgedd i’r tun sydd wedi’i baratoi.
Ar gyfer y topin, cymysgwch y blawd, y sbeis, y siwgr, y ceirch a’r cnau. Ychwanegwch y menyn wedi’i doddi a chymysgwch bopeth yn dda. Arllwyswch y topin dros y cymysgedd afalau.
Pobwch y pei ar silff isaf y popty am tua 60 munud. Os yw’r crwst yn mynd yn rhy dywyll, gorchuddiwch ef â ffoil.
Pan fydd y pei’n barod, tynnwch ef o’r popty a’i roi ar rac weiren. Gadewch iddo oeri cyn ei weini gyda hufen wedi’i chwipio’n ffres.