500g stêc balfais neu stêc stiwio Cig Eidion Cymru
25g blawd
Pupur a halen
2 lwy fwrdd olew
25g menyn
2 winwnsyn
2 ewin garlleg
150g madarch
1 llwy fwrdd saws Worcestershire
1 llwy fwrdd purée tomato
1 ddeilen llawryf
500ml cwrw
400ml stoc cig eidion
Llond llaw o berlysiau ffres
1 pecyn gwrst brau
1 ŵy
Dull
Sesnwch y blawd a'i ddefnyddio i orchuddio'r cig eidion.
Cynheswch yr olew mewn padell fawr neu ddysgl gaserol wrthfflam a ffrio'r cig eidion mewn 2 swp nes ei fod yn frown. Tynnwch allan o'r badell.
Ychwanegwch y menyn, y garlleg, y winwns a'r madarch i'r badell a'u ffrio am ychydig funudau. Dychwelwch y cig eidion i'r badell.
Ychwanegwch y purée tomato, saws Worcestershire, cwrw, stoc, deilen llawryf a pherlysiau. Trowch yn dda a dod â’r cyfan i'r berw.
Mudferwch y cyfan ar wres isel am awr a hanner nes bod y cig yn frau (tewychwch os oes angen). Tynnwch y caead a gadael iddo oeri ychydig.
Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
Rhowch gymysgedd y llenwad i mewn yn y ddysgl bastai.
Rholiwch y crwst allan ar gyfer top y bastai. Torrwch 4 stribed tenau hir o ymyl y crwst. Brwsiwch ymyl y ddysgl gyda'r ŵy wedi'i guro. Defnyddiwch y stribedi i'w gosod o amgylch ymyl y ddysgl bastai, a'u brwsio ag ŵy.
Rhowch y crwst dros y llenwad a'r stribedi’n ysgafn. Tociwch unrhyw grwst sy'n hongian dros yr ymyl.
Os eisau crwst ar yr gwaelod hefyd defyddiwch becyn arall o grwst a’i rowlio a’i roi yng ngwaelod dysgl metal. Yna Dilyn yr cyfarwyddiadau uchod a rhoi yr ddysgl a’r dre metal cyn ei rhoi yn yr popty.
Gwasgwch a chrimpiwch yr ymylon a defnyddiwch unrhyw grwst sy'n weddill i addurno top y pei.
Brwsiwch gyda'r ŵy wedi'i guro a'i roi yn y popty. Pobwch am ryw 25-30 munud nes bod y top yn frown euraidd a bod y llenwad yn chwilboeth.