Cegin S4C

Cegin S4C

Peli Cig Cyw Iâr Groegaidd gyda Pita a Salad

Cynhwysion

  • 500g cig cyw iâr mâl
  • ¼ cwpan briwsion bara ffres
  • 1 llwy de cwmin
  • 1½ llwy de oregano
  • 1 winwnsyn
  • Perlysiau ffres
  • 2–3 ewin garlleg
  • 1 llwy de halen
  • ¼ llwy de pupur

Y saws tomato

  • 1 afal
  • Winwnsyn
  • Pupur
  • 1 tun tomatos
  • Sinsir
  • 2 ewin garlleg
     

Dull

  1. Mewn powlen ganolig, cymysgwch y briwsion bara, cwmin, oregano, halen, pupur du, winwnsyn, mintys a garlleg. Cymysgwch yn drylwyr. Yna plygwch y cyw iâr i mewn yn ysgafn.
  2. Gan ddefnyddio llwy, rholiwch yn beli tua maint cnau Ffrengig. Os yw’r cymysgedd cyw iâr yn teimlo’n ludiog, gwylwch eich dwylo â dŵr neu olew olewydd i’w gwneud yn haws i’w rholio.
  3. Ffriwch y peli cig mewn padell ffrio fawr, gan osgoi gorlenwi. Coginiwch am 8–10 munud, gan droi’n achlysurol nes eu bod yn frown ac wedi coginio’n llwyr i 75°C (defnyddiwch thermomedr cig i wirio).
  4. Ar gyfer y saws
    Piliwch y winwynsyn a’r afal a’u torri’n ddarnau bach o’r un maint, a thorrwch y pupur yn ddarnau bach. Mewn padell fawr neu badell ffrio ddwfn, ychwanegwch ychydig o olew a ffrïwch y nionyn, y pupur, y sinsir a’r garlleg nes eu bod yn feddal. Yna ychwanegwch weddill y cynhwysion, gan gynnwys y tun o domatos.
  5. Ychwanegwch y peli cig i’r saws a gadewch i fudferwi am 15 munud arall, gan droi’n achlysurol i sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio yn y saws ac nad yw’r gwaelod yn glynu wrth y badell.
  6. Gweinwch gyda phasta mewn bara pita gyda salad Groegaidd.

Rysait gan Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - lisafearncooks