Cegin S4C

Cegin S4C

Peli Siocled Ysgewyll

Cynhwysion

  • 200g datys
  • 175g almonau
  • 30g ‘tahini’
  • 50g powdr coco
  • 1 llwy fwrdd hadau chia
  • 2 lwy de rhinflas fanila
  • Pinsiad halen môr
  • 200g siocled gwyn
  • 1 llwy fwrdd powdr te matcha

Dull

  1. Rhowch yr holl gynhwysion (ar wahân i’r siocled gwyn a’r matcha) mewn prosesydd bwyd a’u cymysgu nes eu bod wedi’u cyfuno’n dda. Dylech allu gwasgu’r cymysgedd at ei gilydd yn hawdd. Os yw’n rhy sych, ychwanegwch 1-2 o ddatys helpu’r cymysgedd i lynu at ei gilydd.
  2. Rholiwch yn 24 o beli a’u rhewi am o leiaf 2 awr.
  3. Torrwch y siocled gwyn yn sgwariau bach a’i doddi mewn powlen dros ddŵr mudferwi. Tynnwch oddi ar y gwres, ychwanegwch y matcha a chymysgwch nes ei fod yn cyrraedd y lliw dymunol.
  4. Gadewch i’r siocled oeri ychydig cyn trochi’r pêl wedi’i rewi i’r siocled, gan ddefnyddio fforc i greu gwead tebyg i ysgewyll.
  5. Rhowch y peli siocled ysgewyll mewn cesys a’u bocsio. Byddant yn para am o leiaf 2 wythnos yn yr oergell.

Rysaít gan Nerys Howell - Prynhawn Da

 

Instagram: @nerys_howell

Twitter: @howel_food