Cegin S4C

Cegin S4C

Pitsa

Cynhwysion

Toes

  • 600g blawd gwyn
  • 2 llwy de halen
  • 1 llwy de burum sych
  • 390ml dŵr cynnes
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 llwy de siwgr mân

Ychwanegol:

  • Blawd
  • Olew olewydd

Saws

  • 1 tun o domatos
  • piwrî tomato
  • 1 llwy de siwgr mân
  • 1 llwy de past garlleg
  • 1 llwy de oregano sych
  • Halen a phupur
  • Tsili

Dull

  1. Rhowch holl gynhwysion toes y pizza mewn powlen a chymysgwch nes bod toes garw yn ffurfio. Tynnwch y toes allan ar y bwrdd gwaith a’i dylino nes ei fod yn sidan ac yn llyfn. Gorchuddiwch y bowlen a’i adael i orffwys am 30 munud.
  2. Rhannwch y toes yn 4 darn. Cymerwch y darn cyntaf a thynnwch yr ymylon tuag at y canol, trowch drosodd a’i siapio’n bêl dynn. Ailadroddwch gyda phob darn, yna rhowch ar hambwrdd wedi’i lwchio â blawd. Llwchwch y top gyda blawd a gorchuddiwch gyda cling ffilm neu dywel te glân. Gadewch am 1–2 awr nes bod y toes wedi chwyddo.
  3. I wneud y saws, cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd mewn powlen a’i roi o’r neilltu.
  4. Pan fydd y toes yn barod, cynheswch y ffwrn i 200°C ffan a rhowch hambwrdd metel neu garreg pobi i gynhesu yn y ffwrn. Cymerwch ddarn o’r toes a, gan ddefnyddio’ch dwylo, ei ymestyn i siâp crwn gan adael yr ymylon ychydig yn fwy trwchus.
    (I wneud pizza siâp calon, gwnewch doriad bach ar y top a gwthiwch y toes allan i greu siâp calon.)
    Cymerwch ddarn o bapur pobi a thaenwch ychydig o olew olewydd arno, yna rhowch y gwaelod pizza ar ei ben. Taenwch y saws drosto ac ychwanegwch eich dewis o dopinau. Codwch y pizza gan ddefnyddio’r papur pobi a’i roi ar ben yr hambwrdd poeth yn y ffwrn. Pobwch yn rhannol am 10–12 munud nes bod y gwaelod yn grensiog, y crwst yn euraidd a’r caws yn byrlymu.
  5. Tynnwch y pizza allan o’r ffwrn a diferwch ychydig o fêl poeth neu glaser balsamig drosto. Torrwch, a mwynhewch

Rysait Michelle Evans-Fecci - Prynhawn Da

 

Instagram - bakesbymichelle