Cegin S4C

Cegin S4C

Pizza Prynhawn Da

Cynhwysion

Y crwst cyflym

  • 300g blawd codi
  • 1 llwy de powdwr pobi
  • 1/2 llwy de halen
  • 300g iogwrt Groegaidd naturiol

Y topin

  • 200g  stribedi cyw iâr
  • 1 pupur gwyrdd
  • 2 llwy fwrdd past tikka massala
  • 150g iogwrt Groegaidd
  • Saws mango
  • 2 bara naan garlleg a chorianden
  • Winwns coch 

Dull

  1. Cynheswch olew mewn padell ffrio a coginio y cyw iâr  a’r pupur gwyrdd gan ychwanegu y past tikka iddo, yna coginio am tua 6 mun i roi lliw a blas ir cig.
  2. Gosodwch y bara naan ar dun pobi, gwasgarwch hwynt gydag iogwrt, yna llenwch gyda gymysgedd y cyw iâr ac ychydig o saws mango hwnt ac yma arnynt, nol i’r ffwrn am 5 mun i gynhesu .
  3. Gweinwch y pitsa  gyda y winwns coch wedi ysgeintio ar y top.

Rysait Gareth Richards

Instagram - cegin_gareth