Cegin S4C

Cegin S4C

Porc wedi'i Rhwygo gyda Slaw Sbeislyd

Cynhwysion

  • 5 llwy fwrdd saws soi
  • 4 llwy fwrdd powdr tsili
  • 3 llwy fwrdd powdr pum-sbeis
  • 2 lwy fwrdd siwgr muscovado ysgafn
  • 2 ewin garlleg
  • Darn 4cm sinsir ffres
  • 3kg ysgwydd porc (heb asgwrn, gyda'r croen wedi'i dynnu)

Slaw’ Sbeislyd

  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 2 lwy fwrdd saws soi
  • ½ bresych coch neu wyn
  • 1 winwnsyn coch
  • 1 moronen
  • 1 tsili coch
  • Llond llaw dail coriander ffres (dewisol)
  • Pupur du

Dull

  1. Rhowch y saws soi, y powdr tsili, y pum sbeis, y siwgr, y garlleg a'r sinsir mewn padell fawr drwm a'u cymysgu'n dda i ffurfio past gwlyb.
  2. Rhowch yr ysgwydd porc (neu'r fron gig eidion) yn y badell, yna defnyddiwch eich dwylo i dylino'r cymysgedd sbeis i mewn i'r cig.
  3. Rhowch gaead ar y badell neu ei gorchuddio â ffoil, a choginiwch ar wres isel am 4–5 awr, neu nes bod y cig mor dyner fel y gallwch ei rwygo'n hawdd gyda fforc.

Slaw

  1.  Cymysgwch yr olew sesame a'r saws soi mewn powlen fawr.
  2. Ychwanegwch y bresych, y winwnsyn, y foronen, y tsili (os yn ei ddefnyddio) a'r coriander (os yn ei ddefnyddio), a chymysgwch yn dda nes bod popeth wedi'i orchuddio'n gyfartal.
  3. Sesnwch gyda phupur du wedi'i falu'n ffres yn ôl eich blas.

Rysait gan Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da

Instagram : lisafearncooks