Tynnwch y creiddiau o’r afalau a’u torri’n giwbiau — gadewch y crwyn arnynt i arbed amser a lleihau gwastraff. Rhowch mewn sosban gyda’r siwgr, y sinamon a’r dŵr. Coginiwch am 5–7 munud nes eu bod newydd feddalu.
Rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd, yna cymysgwch y ceirch, y siwgr a’r sinamon i mewn.
Rhannwch yr afalau rhwng pedair dysgl fach sy’n addas i’r popty a thaenwch haen hael o’r crymbl drostynt. Pobwch am 15–20 munud, nes bod y crymbl yn euraidd a’r afalau’n byrlymu.
Gweinwch gyda chwstard, hufen neu lond llwy o iogwrt.