Cegin S4C

Cegin S4C

Pryd Cyw Iâr yr Haf

Cynhwysion

  • 8 clun cyw iâr
  • 1 bag bach tatws newydd bach
  • 2 corbwmpen
  • 1 pupur coch
  • 1 pupur melyn
  • 1 winwnsyn coch
  • 250g tomatos ceirios 

Marinâd

  • 4 ewin garlleg
  • 1 lemwn
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 3 llwy de oregano sych
  • 2 lwy de paprica mwg
  • Llond llaw bach teim neu rhosmari
  • Halen a phupur du

I orffen

  • 150g caws feta
  • 3 llwy fwrdd pesto gwyrdd
  • Llond llaw dail basil ffres
  • 2 lwy fwrdd cnau pinwydd wedi'u tostio
  • Lemwn
  • Dewisol: llond llaw roced neu egin pys

Dull

  1. Paratoi'r Marinâd 
    Mewn powlen fawr, cymysgwch yr olew olewydd, y garlleg, yr oregano, y paprica mwg, y perlysiau, yr halen, y pupur a sudd hanner y lemwn. Ychwanegwch gluniau'r cyw iâr a'u gorchuddio'n dda yn y marinâd. Gadewch i farinadu am o leiaf 30 munud (neu dros nos os oes amser).
  2. Berwch y tatws yn rhannol am ychydig funudau, yna'u rhoi mewn hambwrdd pobi mawr. Cynheswch y ffwrn i 200°C (ffan). Arllwyswch ychydig o olew olewydd dros y tatws a'u sesno'n dda.
  3. Ychwanegwch y pupurau, y gorbwmpen, y winwnsyn coch, y tomatos, yr ewin garlleg, y cyw iâr wedi'i farinadu (gyda'r croen yn wynebu i fyny) a'r sleisys lemwn. Gwasgarwch y perlysiau dros y cyfan.
  4. Pobwch am 35–40 munud, neu nes bod croen y cyw iâr yn euraidd ac yn grimp a bod y sudd yn rhedeg yn glir.
  5. Ar ôl coginio, diferwch y pesto dros y cyfan, briwsioni'r caws feta ar ei ben, ac ychwanegu'r cnau pinwydd wedi'u tostio a'r basil ffres. Gwasgwch ychydig o sudd lemwn drosto a'i weini'n syth o'r hambwrdd pobi.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da

Instagram - bakesbymichelle