Cegin S4C

Cegin S4C

Pryd Selsig, Cennin a Thato

Cynhwysion

  • 8 selsigen
  • 700g tatws
  • 2 cenhinen
  • 4 moronen
  • 2 winwnsyn
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 1 llwy de teim sych
  • 1 llwy fwrdd mwstard grawn cyflawn
  • 300ml stoc cyw iâr
  • Halen a phupur

Dull

  1. Cynheswch y popty i 200°C ffan. Rhowch y tatws mewn dysgl fawr sy’n addas i’r popty gydag ychydig o olew a’u rhostio am 20 munud. Ychwanegwch y moron, y winwns a’r cennin. Taenwch ychydig o olew drostynt, ynghyd â’r teim, yr halen a’r pupur, a’u rhostio am 20 munud arall. Rhowch y selsig rhwng y llysiau a’u rhostio am 25 munud.
  2. Cymysgwch y stoc â’r mwstard a’i arllwys i’r hambwrdd. Rhowch yn ôl yn y popty am 15–20 munud arall, nes bod y selsig yn euraidd a’r tatws yn feddal.
  3. I weini, rhannwch rhwng platiau a rhowch y sudd blasus â blas mwstard drostynt â llwy. Gweinwch gyda brocoli neu lysiau o’ch dewis.

Rysait Michelle Evans-Fecci

Instagram - bakesbymichelle