Cynheswch y llaeth, yr hufen a’r cod fanila mewn sosban.
Curwch yr wyau a’r melynwy gyda’r siwgr mân mewn jwg.
Pan fydd y cymysgedd llaeth ac hufen bron yn berwi, arllwyswch ef yn araf dros yr wyau, gan droi’n gyson nes ei fod yn llyfn.
I wneud y pwdin
Rhowch menyn dros ddysgl fawr sy’n addas ar gyfer y popty neu sawl ramekin bach yn ysgafn.
Rhowch menyn dros ddwy ochr y croissants wedi’u sleisio.
Gosodwch y sleisys mewn rhes yn y ddysgl, gan geisio eu trefnu’n ddeniadol; ychwanegwch yr almonau ac unrhyw ffrwyth o’ch dewis, yna arllwyswch y cwstard drostynt.
Taenwch ychydig o siwgr demerara ar ei ben a’i bobi am 35–40 munud nes ei fod yn frown euraidd ac wedi chwyddo.