Cegin S4C

Cegin S4C

Pwdin Datys a Chnau Pecan

Cynhwysion

  • Crwst parod
  • 100g datys meddal
  • 1 llwy de past ffa fanila
  • 1–2 lwy fwrdd dŵr
  • Pinsied halen
  • 50g cnau pecan  
  • ½ llwy de sinamon
  • 50g menyn siocled

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C (ffan) a leiniwch hambwrdd pobi gyda phapur pobi. Dad roliwch y toes ar arwyneb gwaith glân.
  2. Rhowch y datys mewn prosesydd bwyd gyda’r fanila, 1 llwy fwrdd o ddŵr, a phinsied o halen. Cymysgwch nes ei fod yn llyfn, gan ychwanegu ychydig mwy o ddŵr os oes angen i’w droi’n bast y gellir ei daenu.
  3. Taenwch y cymysgedd datys yn gyfartal dros y toes, gan adael ffin o 2cm o amgylch yr ymylon. Ysgeintiwch hanner y cnau wedi’u torri drosodd.
  4. Gan ddechrau o’r ymyl byr agosaf atoch, rholiwch y toes yn dynn i ffurfio rholyn. Torrwch y pennau, yna torrwch yn 8 troell gyfartal. Rhowch ar yr hambwrdd parod, gan adael bwlch rhyngddynt.
  5. Pobwch am 18–20 munud, neu nes eu bod wedi codi ac yn euraidd. Gadewch i oeri ychydig.
  6. Cynheswch y menyn siocled ysgafn, yna diferwch dros y troellau a gorffennwch gyda’r cnau wedi’u torri sy’n weddill, a llwch ysgafn o siwgr eisin.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - bakesbymichelle