Cegin S4C

Cegin S4C

Pwdin Padell

Cynhwysion

  • 20g menyn hallt
  • 125g ceirch
  • 4 llwy fwrdd siwgr brown
  • 1 llwy de sinamon
  • 50g cnau
  • 50g hadau cymysg
  • 2 lwy fwrdd mêl

Llenwad

  • 20g menyn hallt
  • 800g afalau coginio / ffrwyth addas  (megis gellyg, eirin, cwins, mwyar duon)
  • 2 lwy fwrdd siwgr brown
  • Sudd ½ lemwn

Dull

  1. Toddwch y menyn mewn padell ffrio fawr a choginiwch y ceirch, y siwgr a’r cnau dros wres canolig i uchel nes eu bod yn euraidd, yna ychwanegwch yr hadau a choginiwch am 5 munud arall.
  2. Tywalltwch y mêl drostynt, cymysgwch yn dda a choginiwch am 2 funud arall. Tynnwch oddi ar y gwres a thywalltwch y cymysgedd i bowlen. Sychwch y badell yn ysgafn cyn coginio’r ffrwythau.
  3. Piliwch, tynnwch ganol a sleisiwch yr afalau. Toddwch y menyn yn yr un badell ac ychwanegwch yr afalau, cymysgwch y siwgr a’r sudd lemwn i mewn a choginiwch am 5 munud nes bod yr afalau wedi meddalu. Tywalltwch y topin drostynt a gweinwch yn syth o’r badell gyda crème fraîche, cwstard neu iogwrt.

Rysait gan Nerys Howell ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - nerys_howell