Cynheswch y popty i 160°C ffan a gwasgarwch menyn dros ddysgl bobi maint ganolig.
Gorchuddiwch y datys yn y te a’r soda pobi am 10 munud, yna tynnwch y bag de a stwnsiwch y cyfan.
Curwch y menyn, yr holl siwgr a’r triagl at ei gilydd, yna ychwanegwch yr wyau, y blawd, y soda pobi, y fanila a’r halen. Cymysgwch y datys wedi stwnshio i mewn.
Arllwyswch i’r ddysgl a phobi am 30–40 munud.
Ar gyfer y saws, toddwch y menyn, yr holl siwgr a’r triog nes eu bod yn llyfn, yna ychwanegwch yr hufen a’i fudferwi nes ei fod yn tewhau. Ychwanegwch yr halen a’r cnau pecan.
Ar gyfer yr hufen masarn, chwipiwch yr hufen i bigau meddal. Ychwanegwch 2–3 llwy fwrdd o surop masarn a diferion o fanila, ac yna plygwch yn ysgafn i’w gyfuno.
Tyllwch y sbwng cynnes gyda ffon sgiwer a tywalltwch hanner y saws drosto. Gweinwch y dognau gyda rhagor o saws a llond llwy o’r hufen masarn wedi chwipio, neu gyda hufen iâ neu cwstard.