Tynnwch y pen oddi ar y garlleg cyfan, rhoi ychydig olew olewydd a halen gyda fe a'i lapio mewn ffoil a rhoi yn y popty i rostio.
Rhowch eich llysiau wedi torri i gyd mewn powlen. Torrwch y corbwmpen a'r pupur yr un maint fel eu bod yn coginio ar yr un amser ac eistedd yn daclus ar eich fforc.
Rhowch lond llwy fwrdd o olew olewydd neu olew afocado dros y llysiau ac yn ychwanegu'r paprika, saets, gronynnau garlleg, tarragon halen a phupur.
Cymysgwch yn dda a'i rhoi ar hambwrdd. Griliwch am 5 munud i gael ychydig o liw ac wedyn symud i'r popty ar 200°c am 25 munud.
Yn y cyfamser, paratowch eich penfras ar hambwrdd pobi arall. Rhowch ychydig olew arno a halen a phupur.
Rhowch eich gril i 250°c. Rhowch y pysgodyn dan y gril am 3 munud.
Rhowch ychydig finegr balsamig dros y pysgodyn a'i weini ar ben y llysiau wedi rhostio gydag ychydig bersli i addurno.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).