Cegin S4C

Cegin S4C

Quiche Gwyrdd y Gwanwyn

Cynhwysion

  • 500g crwst brau
  • Blawd (i ysgeintio)
  • 25g caws cheddar (wedi gratio)
  • 200g merllys
  • 100g pys
  • 2 ŵy
  • 100g crème fraiche
  • 200ml hufen
  • 100g dŵr berw
  • 200g caws feta
  • 4 shibwns (wedi sleisio)
  • nytmeg ffres

Dull

  1. Ysgeintiwch y bwrdd gyda blawd a rholiwch y toes yn ddarn hirsgwar, gorchuddiwch â chaws a phlygwch y toes yn hanner i orchuddio, a rholiwch eto .
  2. Urwch tin pobi crwn (24cm) yna leiniwch y tin ar toes, gadewch i orffwyso am tua 20 min yn yr oergell.
  3. Coginiwch y merllys  mewn dŵr berw am tua 3 munud yna gosodwch mewn dŵr oer. Yna coginio y pys eto am tua 3 munud.
  4. Dewch a’r toes o’r oergell yna leiniwch a phapur gwrthsaim a llenwch gyda ffa pobi, coginiwch am tua 20 munud ar wres 200c/ 180 ffan/ nwy 6. Gwaredwch y papur yna nol i’r ffwrn am tua 5 munud .
  5. Chwyrliwch yr wyau ,hufen a’r crème fraiche yna ychwanegwch ychydig o halen a pupur a ychydig nytmeg wedi gratio.
  6. Torrwch y berw dwr yna gosodwch dros waelod y darten yna y pys  ychydig or caws wedi falu ar shibwns ,arllwyswch y gymysgedd wy dros y cyfan gan gosod y merllys ar y top a gorffen gyda mwy o gaws wedi falu . Pobwch am tua 25 min , gweinwch gyda thato newydd ac egin pys.

Rysait Gareth Richards ar gyfer Prynhawn Da.
Instagram -