Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Rarebit porc
Gan
Catrin Thomas
Hawdd
Cynhwysion
2 darn porc
2 lwy de mwstard cyflawn
50g caws cheddar
1 llwy fwrdd o crème fraiche
500g tatws cwyraidd
2 lwy fwrdd olew olewydd
sudd o 1 lemwn
rhosmari
Dull
Cynheswch yr olew mewn ffrimpan a lliwiwch y darn porc yn frown. Nid ydych yn coginio'r chop nawr, ond yn wneud yn siŵr mae'r braster wedi lliwio.
Rhowch y darn o borc yn erbyn y ffrimpan ar yr ochr fwyaf "fatty".
Symudwch y darnau draw i lestr ffwrn isel. Coginiwch am 15 munud yn y ffwrn.
Cymysgwch y mwstard, caws a crème fraiche at ei gilydd. Gwasgarwch ar draws y darnau o gig.
Rhowch nhw nôl yn y ffwrn a, 5 munud nes i'r rarebit doddi a throi'n euraidd.
I wneud y tatws, gwaredwch y croen a thorrwch mewn i "wedges". Gosodwch nhw yn sosban gyda dŵr hallt.
Coginiwch am tua 5 munud. Draeniwch i ffwrdd y dŵr a siglwch y tatws yn drylwyr.
Mewn tun pobi, gosodwch yr olew, sudd lemwn a rhosmari.
Gadwch y tatws yn yr olew am 10 munud cyn pobi nhw am 20-30 munud.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Ryseitiau Prynhawn Da
Wraps porc kofta
Darllen mwy
Pryd porc
Darllen mwy