Cynheswch y popty i 200°C / marc nwy 6. Cymysgwch yr olew, y paprica, y cwmin, y mêl, y garlleg a’r halen gyda’i gilydd mewn powlen fawr. Torrwch y blodfresych yn flodau bach maint addas i gnoi a’i gymysgu yn y gymysgedd sbeislyd ynghyd â’r cnaupys.
Rhostiwch yn y popty am 25–30 munud nes eu bod yn dyner.
Yn y cyfamser, pliciwch a thorrwch yr afocado, torrwch y persli, a’u hychwanegu at y winwnsyn gyda’r hadau a sudd y leim.
Unwaith y bydd y blodfresych wedi coginio, rhowch ef yn y gymysgedd winwnsyn a phersli, gweini ar blât mawr a diferu ychydig o fêl dros y top cyn gweini.