Rhowch yr holl gynhwysion i’r dresin mewn powlen a ddefnyddiwch chwisg a chymysgu’n dda. Ei roi yn yr oergell tra’n paratoi’r cyw iar.
Rhoi’r brest cyw iar ar hambwrdd torri, rhoi haen o ‘cling film’ neu bapur cegin ar yr wyneb a defnyddiwch rholbren i’w daro nes yn eithaf tenau.
Rhowch y blawd, pupur a halen ar blât fach.
Cymysgwch y briwsion gyda’r cynhwysion sych a’r caws a’i roi mewn powlen fach.
Rhowch yr ŵy mewn powlen arall.
Codwch y cyw iâr a’i roi yn y blawd a’i gorchuddio’n llwyr, yna ei roi yn y ŵy wedi’i guro ac yna yn yr gymysgfa briwsion bara.
Coginio’r cyw iar drwy – ffrio yn ysgafn mewn padell ffrio am tua 5 munud bob ochr nes yn euraidd a’r cyw iar wedi ei goginio yn llwyr, neu gallwch ei ysgeintio gyda olew a’i goginio yn y popty aer am tua 12 munud, neu ysgeintio gyda olew a’i roi mewn popty poeth am 15 munud.
Pan mae’r cyw iâr yn barod, rhowch a’r blât, gosodwch y letys, croutons a’r caws ar yr wyneb ac yna llwyaid da o’r dresin ar yr wyneb.