Cegin S4C

Cegin S4C

Salad cyw iar ac eirin gwlanog

Cynhwysion

  • 300g cyw iar wedi’i goginio
  • 1 letysen neu cymysgedd o ddail
  • 1 pecyn o egin ffa
  • 1 ciwcymber
  • 6 rhuddygl
  • 2 eirin gwlanog aeddfed
  • 2 llond llaw o ddail mintys
  • 6 sibwns
  • 3 llwy fwrdd o gnau hallt e.e. cnau mwnci, cashew

     

  • Dresin
  • Sudd 2 leim neu lemon
  • 2 llwy fwrdd olew sesame
  • 1 llwy de o fêl
  • Mymryn o saws pysgod
  • 1 tsili coch

Dull

  1. Torrwch y cyw iâr i ddarnau maint…...
  2. Ar gyfer y dresin torrwch y tsili yn fn gan waredu’r hadau a chymysgwch popeth gyda’u gilydd yn dda. Sesnwch gyda halen a phupur.
  3. Golchwch y letys a’r ffa egin, sychwch a thorrwch y dail mwyaf yn llai.
  4. Hanneri a thynnu’r garreg o’r eirin a’i thorri yn sleisys tenau a thorri’r rhuddygl yn gwarteri.
  5. Torri’r ciwcymber ar ei hyd, tynnu’r hadau gyda llwy de a thorri i siap hanner lleuad. Torrwch y mint yn fras a thorri’r sibwns yn groeslinol.
  6. Mewn powlen fawr cymysgu’r holl gynhwysion heblaw y cnau ac arllwys y dresin drosto.
  7. Torrwch y cnau yn fras a thaflwch dros y salad cyn gweini.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

 

Rysáit gan Nerys Howell