Salad cyw Iâr ac eirin gwlanog
-
-
Digon i fwydo
4-6
-
Cynhwysion
- 300g cyw iar
- 1 letysen/ dail salad cymysg
- 1 pecyn egin ffa
- 1 ciwcymber
- 6 rhuddygl
- 2 eirin gwlanog aeddfed
- 2 llond llaw dail mintys
- 6 shibwnsyn
- 3 llwy fwrdd cnau hallt e.e. cnau daear, cashiw
Dresin
- Sudd 1 leim neu lemwn
- 2 llwy fwrdd olew sesame
- 1 llwy de mêl
- Mymryn saws pysgod
- 1 tsili coch
Dull
- Torrwch y cyw iâr i ddarnau o faint bwytadwy.
- Ar gyfer y dresin: torrwch y tsili yn fn gan waredu’r hadau a chymysgwch popeth gyda’u gilydd yn dda. Sesnwch gyda halen a phupur.
- Golchwch y letys a’r ffa egin, sychwch a thorrwch y dail mwyaf yn llai.
- Hanneri a thynnu’r garreg o’r eirin a’i thorri yn sleisys tenau a thorri’r rhuddygl yn gwarteri.
- Torri’r ciwcymber ar ei hyd, tynnu’r hadau gyda llwy de a thorri i siap hanner lleuad. Torrwch y mint yn fras a thorri’r shibwns yn groeslinol.
- Rhowch yr holl gynhwysion, heblaw’r cnau mewn powlen ac arllwys y dresin drosto.
- Torrwch y cnau yn fras a thaflwch dros y salad cyn gweini.
Rysait gan Nerys Howell
Instagram - nerys_howell