Cegin S4C

Cegin S4C

Salad Houmous Groegaidd

Cynhwysion

  • 2 llwy fwrdd cnau pinwydd
  • 100g tomatos ceirios
  • 1 ciwcymbr
  • 1 winwnsyn coch
  • 75g  olewon du
  • 1 llwy de oregano sych
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 75g past tahini
  • 3 ewin garlleg
  • sudd 1 lemwn
  • 1 tun gwygbys
  • 1 llwy de cwmin
  • 50g iogwrt Groegaidd
  • 100g caws feta
  • ychydig dail dil

Dull

  1. Mewn padell ffrio, yn gyntaf rhaid tostio y cnau nes bod yn euraidd.
  2. Torrwch y tomatos yn  hanner gosodwch mewn powlen gyda’r ciwcymbr, winwyns ar olewon wedi ddarnio .
  3. Yna ychwanegwch yr oregano a 1 llwy fwrdd o olew.
  4. Mewn prosesydd bwyd ychwanegwch y tahini a’r garlleg gyda sudd lemwn gan gadw 1 llwy bwdyn or sudd, yna pinsiaid o halen a’i brosesi yn llyfn
  5. Ychwanegwch y ffa wedi draenio gyda 4 llwy fwrdd o hylif o’r ffa a’r cwmin a malu eto yn llyfn .
  6. Gwasgarwch dros blât mawr, gan gyfuno y sudd gyda’r iogwrt a chreu effaith tonnau dros y houmous.
  7. Gosodwch y salad Groegaidd drosto gan gorffen gyda’r feta, cnau a ychydig o dill.
  8. Gweinwch gyda bara Groegaidd.

Rysait Gareth Richards

Instagram - cegin_gareth