Salad Tatws Newydd a Ffa Gwyrdd
Cynhwysion
- 4 taten Sir Benfro
- 1 cwpan ffa gwyrdd
- 1 cwpan pys gardd
- 1 cwpan ffa llydan
- 1 pupur coch
- Olew olewydd
- 1 llwy fwrdd menyn
- 1 ewin garlleg
halen môr a phupur du
- Dewisol: darnau bacwn, selsig chorizo
Dull
- Rhowch ychydig o olew a menyn mewn padell ffrio fawr
- Ffriwch y ffa gwyrdd i’w meddalu (ychwanegwch y bacwn neu’r selsig chorizo os ydych yn ei ddefnyddio)
- Ychwanegwch 1 ewin garlleg wedi’i falu ac ychydig mwy o fenyn
- Ychwanegwch y pys gardd (mae rhai wedi’u rhewi’n iawn!), y ffa llydan a’r pupurau a’u ffrio dros wres isel nes eu bod wedi meddalu.
- Cymysgwch y tatws wedi’u berwi a’u torri’n giwbiau i mewn a’u cynhesu drwodd
Sesnwch gyda halen a digon o bupur
Awgrym: Gellir ychwanegu halen chili am flas ychwanegol
- Gweinwch fel pryd ochr llysiau gyda’ch hoff bryd!
Rysait Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da
Instagram - lisafearncooks