Cynheswch y ffwrn i ffan 200°C/Nwy 6. Irwch hambwrdd pobi yn ysgafn.
idlwch y blawd, yr halen a'r powdwr pobi mewn powlen yna rhwbiwch y menyn nes bod y cymysgedd yn debyg i friwsion bara, yna ychwanegwch y siwgr a chroen y lemon. Cadwch llwyaid o’r ŵy wedi'i guro ar un ochr ac ychwanegu llwyaid o'r kefir ato i wneud gwydredd ŵy a chymysgwch yr ŵy a'r kefir sy'n weddill gyda'i gilydd. Ychwanegwch y cymysgedd hwn at y blawd a chymysgwch yn ysgafn nes bod gennych does gadarn, ond heb fod yn ludiog. Peidiwch â gor gymysgu! Dylai'r gwead fod rhwng cymysgedd cacen a chrwst.
Rhowch ar fwrdd wedi’i orchuddio â blawd a churwch yn ysgafn nes ei fod yn 3cm o drwch. Rowch y torrwr 7cm yn y blawd a’i ddefnyddio i dorri’r sgons. Gosodwch ar hambwrdd pobi a'u brwsio gyda'r gwydredd ŵy.
Pobwch am 15-20 munud nes eu bod wedi codi ac yn euraidd. Trosglwyddwch i rac weiren i oeri.