Cegin S4C

Cegin S4C

Siytni Eirin Sbeislyd

Cynhwysion

  • 3  winwnsyn coch
  • 1kg eirin
  • 500g afalau coginio
  • 120g llugaeron sych (cranberries)
  • 450ml finegr gwin coch
  • 400g siwgr brown (muscovado)
  • 1 darn sinamwn
  • 1 llwy de allspice mâl
  • 3 dail llawryf
  • 1 llwy de sinsir mâl
  • 3 seren anis
  • 3 llwy de hadau mwstard (dewisol)
  • 1 llwy fwrdd sinsir
  • 2 lwy de halen

Dull

  1. Piliwch a thorrwch y winwns yn fân. Golchwch, tynnwch y cerrig ac yna torrwch yr eirin. Piliwch, tynnwch y craidd a thorrwch yr afalau, yna rhowch bopeth mewn sosban fawr.
  2. Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill a chymysgu’n dda, yna cynheswch dros wres canolig a dod â’r cymysgedd i’r berw. Gostyngwch i wres isel a gadewch iddo fudferwi nes iddo leihau a thewhau — tua 1 awr a 30 munud — gan ei droi o bryd i’w gilydd i atal llosgi ar waelod y sosban.
  3. Ceisiwch dynnu’r sinamon a’r dail llawryf, yna rhowch y siytni i jariau wedi’u sterileiddio, gan ei wasgu i lawr i gael gwared ar unrhyw aer sydd wedi’i ddal, gan adael bwlch o 2mm o’r top. Caewch y jariau tra’n dal yn boeth.
  4. Storiwch i aeddfedu am o leiaf 3 wythnos. Bydd y siytni sydd heb ei agor yn cadw mewn lle tywyll am hyd at 12 mis.

     

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Rysáit gan Nerys Howell.