Cegin S4C

Cegin S4C

Swffle Caws Cymreig

Cynhwysion

  • 50g blawd plaen
  • 50g menyn Cymreig
  • 1/2 peint llaeth
  • Halen a phupur
  • 100g caws gafar Y Fenni
  • 50g tomatos heulgras
  • 3 ŵy
  • 50g caws cheddar aeddfed Cymreig
  • 500ml passata tomato
  • 1 llwy fwrdd saws Caerwrangon
  • 1 cennin

Dull

  1. Yn gyntaf rhaid uro 6 pot ramakin maint 150ml -1/4 peint
  2. Trowch y ffwrn i 220c fan, 200c, nwy 7
  3. Toddwch y menyn  mewn sosban, dewch o’r gwres yna fewn a’r blawd nol i’r gwres i goginio am 30 eiliad. Yn raddol ychwanegwch y llaeth a mud ferwi i ansawdd trwchus. Nesaf ychwanegwch y caws gafr wedi ddarnio, halen a phupur a’r tomatos.
  4. Y cam nesaf fydd ychwanegu y melyn wy .
  5. Chwyrliwch y gwyn wy gan ychwanegu 1 llwy fwrdd i greu ansawdd llac a wedi y gweddill, a llenwch y potiau bychan efo.
  6. Gosodwch hwynt mewn tun rhostio ac amgylchyni a dŵr berw .
  7. Coginiwch am tua 18 mun nes fod yn euraidd. Gosodwch mewn dysgl rhostio wedi uro ac ysgeintio gyda hanner y caws. Ychwanegwch y saws Caerwrangon ir passata yna fewn ir dysgl. Trowch y swffle allan a gosod yn y saws gan ysgeintio gyda gweddill y caws. Yna nol i’r ffwrn am tua 10-15 mun i liwio y caws.
  8. Torrwch y chennin yn ddarnau hirfain a ffrio mewn menyn Cymreig . Gweiniwch y swffle mewn pwll passata gyda’r cennin yn goron i’r swffle.

Rysait Gareth Richards

Instagram - cegin_gareth